Clwb Hoci Llandysul

Dyma lun o glwb hoci Llandysul yn derbyn siec o £350 oddi wrth Gweithgareddau Bywyd Iach (www.healthylifeactivites.co.uk). Bu chwaraewyr a chefnogwyr y clwb yn stiwardio hanner marathon Myrddin, Caerfyrddin ym mis Awst eleni. Fe wnaeth llawer o’r rhedwyr ddiolch am y cefnogaeth brwd cafodd ei rhoi hefo’r stiwardiaid ac am y gwaith arbennig gwnaethant ar y dydd. Swyddogion y tîm eleni yw: Capten – Gwyneth Ayers, Is-gapten – Charlotte Howorth, Ysgrifenyddes – Kelly Davies, Trysorydd – Mererid Davies.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r clwb mae croeso i chi ddod i’m sesiynau ymarfer bob nos Fawrth am 6.30yh ar Astro’r Ganolfan Hamdden yn Llandysul.

Mae Gweithgareddau Bywyd Iach yn falch o gefnogi clwbiau chwareon sydd yn annog ac yn rhoi cyfle i blant mwynhau chwareon o unrhyw fath. Pob Lwc i’r Clwb eleni ac edrychwn ymlaen i gael eich cefnogaeth eto.